Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 07/11/2018 i'w hateb ar
14/11/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifenyddion y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Mark Reckless Dwyrain De Cymru
(e)
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau faint o arian y gellir ei ddefnyddio o dan ffrydiau ariannu cyfalaf gwahanol ar gyfer ffordd liniaru'r M4?
Dawn Bowden Merthyr Tudful a Rhymni
(e)
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau rhagolygon y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer poblogaeth oedran gweithio Cymru?
Mohammad Asghar Dwyrain De Cymru
(e)
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel ardrethi busnes yng Nghymru?
Paul Davies Preseli Sir Benfro
(e)
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dyraniad cyllidebol ar gyfer y portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol?
Vikki Howells Cwm Cynon
(e)
Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i ddarparu cyllid i atal llifogydd wrth benderfynu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019/20?
Hefin David Caerffili
(e)
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn y dyfodol?
Mike Hedges Dwyrain Abertawe
(e)
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gronfa arloesi-i-arbed?
David Rees Aberafan
(e)
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru o symud i reolau Sefydliad Masnach y Byd ar ôl Brexit?
Rhun ap Iorwerth Ynys Môn
(w)
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth am effaith Brexit ar borthladd Caergybi?
Jane Hutt Bro Morgannwg
10 OAQ52904
(e)
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau cyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer adnoddau refeniw a chyfalaf Llywodraeth Cymru?
Mark Isherwood Gogledd Cymru 11 OAQ52892
(e)
Pa ystyriaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu economaidd yng Ngogledd Cymru wrth ddyrannu cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru?
Russell George Sir Drefaldwyn
(e)
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 ym Mhowys?
Vikki Howells Cwm Cynon 13 OAQ52908
(e)
Pa ystyriaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i gyllid ar gyfer addysg bellach wrth benderfynu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019/20?
Leanne Wood Rhondda
14 OAQ52923
(e)
Pa ystyriaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i amddiffyn menywod wrth ddyrannu'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20?
Llyr Gruffydd Gogledd Cymru
(e)
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gogledd Cymru mewn perthynas â dyrannu arian ychwanegol sy'n debygol o ddod i Gymru yn dilyn cyhoeddiadau Llywodraeth y DU ar y gyllideb?
Dawn Bowden Merthyr Tudful a Rhymni
(e)
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb?
Sian Gwenllian Arfon
(w)
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gysylltedd band-eang yn Arfon?
Rhianon Passmore Islwyn
(e)
Sut y mae'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn trawsnewid y dirwedd ddigidol yn Islwyn?
Rhianon Passmore Islwyn
(e)
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi terfyn ar gaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yn ne-ddwyrain Cymru?
Suzy Davies Gorllewin De Cymru
(e)
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddariad am fynediad i fand eang yng Ngorllewin De Cymru?
Paul Davies Preseli Sir Benfro
(e)
A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r seilwaith digidol yn Sir Benfro?
Janet Finch-Saunders Aberconwy
(e)
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am lefelau anghydraddoldeb yng Nghymru?
Bethan Sayed Gorllewin De Cymru
(e)
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddarparu amlinelliad o fuddsoddiad diweddar ac arfaethedig mewn band eang?
Jayne Bryant Gorllewin Casnewydd TYNNWYD YN ÔL
(e)
Beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a chamdrin domestig dros y 12 mis diwethaf?
David Rees Aberafan
10 OAQ52918
(e)
Pa drafodaethau y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cyllid i gefnogi dysgwyr o leiafrifoedd ethnig ac sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr?
Mohammad Asghar Dwyrain De Cymru
11 OAQ52898
(e)
Pa fesurau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru yn 2019?
Janet Finch-Saunders Aberconwy
(e)
Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i wella’r broses o ddarlledu trafodion yn y Senedd?
Julie Morgan Gogledd Caerdydd
(e)
Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i wella'r amgylchedd o amgylch y Cynulliad?
Helen Mary Jones Canolbarth a Gorllewin Cymru
(e)
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am arferion gweithio hyblyg sydd ar gael i staff y Comisiwn?